Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA319 -  Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

 

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliadau canlynol yr UE —

·         Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu a fwriedir i’w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt;

·         Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd;

·         Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd; a

·         Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt briodweddau cyflasyn i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt.

 

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd.

 

 

GweithdrefnNegyddol

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

1.       Mae rheoliadau 17(2) a 19(1)(b)(i) yn cyfeirio at reoliad 7(4), ond nid oes darpariaeth o'r fath yn bodoli.

[Rheol Sefydlog 21.2(vi) – gwaith drafftio diffygiol]

 

2.       Mae rheoliad 19(1)(e) yn cyfeirio at baragraff (3)(c), ond nid oes darpariaeth o'r fath yn bodoli.

[Rheol Sefydlog 21.2(vi) – gwaith drafftio diffygiol]

 


 

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

3        Mae tabl 1 o Atodlen 4 yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodedig o Reoliad 1332/2008.  Nodir erthyglau 14.1 ac 14.2 gan eu bod yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth i'r Comisiwn.  Mae erthygl 14.3 hefyd yn cynnwys gofyniad o'r fath, ond ymddengys nad oes darpariaeth wedi'i gwneud ar gyfer ei orfodi.

[Rheol Sefydlog 21.3(iv) – rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol]

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Hydref 2013